'Roadshow' Dawny Tootes

Prosiect i greu darn o celf i arddangos ar y wal yn derbynfa Cantref.

Gwobr TPAS

Enillodd Cantef gwobr TPAS am yr ymrwymiad yr ydym yn dangos i'r tenantiaid.

Roedd y gwobr am ''Succesful Participation in Rural Areas''

Cynllun Cymorth Prynu yn Sir Benfro

Mae grant bychan ar gael i gynorthwyo ymgeiswyr i brynu cartref yn Sir Benfro. Am fwy o manylion, ewch i'r dudalen Ein Cartrefi a'n Gwasanaethau.

Oes diddordeb gennych i fod yn Aelod Bwrdd Cantref?

 I gael gwybod mwy am y rôl, dewch i’r noson wybodaeth ar gyfer darpar Aleodau Bwrdd newydd sydd ar nos Fawrth 27 Gorffennaf yn Llys Cantref, Castell Newydd Emlyn, am 6:00pm  Os ydych am fynychu’r cyflwyniad hwn ffoniwch ni ar 01239 712000 neu anfonwch e-bost at amandah@cantref.co.uk

Croeso

Cymdeithas dai yw Cantref sy’n darparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel a gwasanaethau lletya i bron i 3,500 o bobl ar draws ardal pedwar awdurdod lleol yng ngorllewin Cymru: Ceredigion, Gogledd Sir Benfro, Gogledd Sir Gaerfyrddin ac ardal Machynlleth ym Mhowys.

Mae gennym dros 1406 o gartrefi ar rent ac yn ystod y tair blynedd nesaf byddwn yn datblygu dros 140 uned newydd.
 
Rydyn ni’n darparu cartrefi ar gyfer teuluoedd, pobl ifanc, yr henoed, a phobl ag anghenion arbennig gan roi cymorth i’w galluogi i fyw yn y gymuned. 
 
Dyma ein datganiad cenhadaeth:
Yn falch o droi tÅ· yn gartref i chi
 
Dyma ein gwerthoedd: 
  • Parchu anghenion ein cwsmeriaid
  • Annog ffyrdd arloesol o feddwl
  • Gwarchod yr amgylchedd yn y gwaith a wnawn
  • Cryfhau'r cymunedau yr ydym yn gweithio ynddynt
  • Hybu dwyieithrwydd
Cymdeithas Tai Cantref, Llys Cantref, Church Lane, Newcastle Emlyn, SA38 9AB
ffôn: 01239 712000  |  ffacs: 01239 712001  |  e-bost: post@cantref.co.uk