Cwestiynau Cyffredin
-
Sut fedraf i gymryd mwy o ran yng ngwaith Cantref os wyf i'n denant?
Gallwch ddod i gyfarfod o'n Panel Deiliaid neu ymuno â'ch Cymdeithas Tenantiaid leol. Os nad oes grwp tenantiaid yn eich ardal chi, cysylltwch â ni, ac fe helpwn ni chi i sefydlu un. Os nad ydych chi'n dymuno mynychu cyfarfodydd gallwch chi ymweld ag un o'n cymorthfeydd "Cantref a Chi" sy'n cael eu cynnal ar draws ein hardal waith. Hefyd gallwch gael gwybodaeth yn ein cylchlythyr tenantiaid am weithdai, grwpiau ffocws a gwahanol gyfarfodydd rydyn ni'n eu trefnu a allai eich helpu chi i chwarae mwy o ran yn ein gwaith.
Ein Bwrdd sy'n gyfrifol am benderfyniadau ariannol a pholisi a'n cyfeiriad yn y dyfodol. Mae'n cynnwys 12 o aelodau ac mae 4 o'r aelodau bob amser yn denantiaid. Os hoffech gael eich enwebu i sefyll etholiad fel aelod denant o'r bwrdd a chael gwir ddylanwad ar y ffordd mae'ch cartrefi'n cael eu rheoli, rhowch wybod i ni.
-
Dwyf i ddim yn denant ond sut fedraf i gymryd mwy o ran yng ngwaith Cantref?
Mae 8 lle i aelodau cyffredin ar ein Bwrdd. Os hoffech chi sefyll etholiad, cysylltwch â ni. Does dim angen i chi fod â chefndir mewn tai neu gefnogaeth ond os oes gennych chi ddealltwriaeth o gymunedau a buddiannau pobl leol neu brofiad mewn datblygu eiddo, y gyfraith, marchnata iechyd neu'r sector gwirfoddol ac os hoffech chi helpu gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, mae'n bosibl y byddech chi'n ymgeisydd delfrydol
-
Sut ydw i'n gwneud cais am gartref?
Lawrlwythwch y ffurflen gais, ei llenwi a'i dychwelyd atom ni. Pan fyddwn ni'n ei derbyn hi, byddwn ni'n asesu eich anghenion ac yn eich gosod chi ar ein rhestr aros. Mae gennym ni restr aros agored, sy'n golygu y caiff unrhyw un wneud cais.
-
Beth sy'n digwydd ar ôl i fi ymgeisio?
Byddwn ni'n asesu eich cais, eich anghenion cartrefu, y math o gartref sy'n addas i chi a lle yr hoffech chi fyw. Fe ddywedwn ni wrthych chi faint o bwyntiau sydd gennych chi - eich 'asesiad pwyntiau' - sy'n arwydd o'ch angen am gartref.
-
Sut mae Cantref yn penderfynu pwy sy'n cael cartref?
Gan ddibynnu ar y math o gartref sydd ar gael i'w osod, byddwn ni'n dethol yr ymgeisydd sydd â'r angen mwyaf. Os ydych chi'n hoffi'r cartref rydyn ni'n ei gynnig i chi fe wnawn ni ysgrifennu atoch chi yn cynnig tenantiaeth gyda ni.
-
Beth sy'n digwydd os ydw i'n gwrthod y cynnig?
Os oes gennych chi reswm da dros wrthod y cynnig, ni ddylai hynny effeithio ar eich cais. Fodd bynnag os ydych chi'n gwrthod sawl cynnig efallai y bydd rhaid i ni atal eich cais am gyfnod. Os cewch chi'ch derbyn fel ymgeisydd digartref gan y cyngor dim ond un cynnig o gartref fyddwch chi'n ei gael. Os ydych chi'n gwrthod y cynnig hwnnw oherwydd nad ydych chi'n credu bod y cartref hwnnw'n addas, gallwch ofyn i'r cyngor adolygu eich cais.
-
Faint o amser mae'n ei gymryd i gael cynnig cartref addas?
Mae'n anodd rhagweld pryd fydd llefydd gwag yn codi oherwydd dydyn ni ddim yn gwybod pryd fydd un o'n tenantiaid presennol yn dweud wrthym ni eu bod am adael. I gael rhagor o wybodaeth am gartrefi gwag sydd ar gael, cysylltwch â ni.
-
Ymgeisio i fyw mewn lle penodol
Os ydych chi'n dymuno byw mewn lle penodol, yn ogystal ag anfon cais atom ni'n uniongyrchol, gallwch chi hefyd wneud cais am gartref yn unrhyw un o'r pedair sir lle mae cartrefi gennym ni drwy wneud cais uniongyrchol i ymuno â'r gofrestr neu'r rhestr aros berthnasol.
-
Sut fedraf i wneud cais am gartref yng Ngheredigion?
Rydyn ni'n bartner ar y Gyd-Gofrestr Dai gyda Chyngor Sir Ceredigion. Bob tro bydd tenant yn gadael un o'n cartrefi, caiff ei gynnig i bobl ar y Gofrestr neu i bobl a enwebir gan y cyngor o'r un Gofrestr - mae hyn oherwydd bod Cantref a'r cyngor yn gweithredu system bwyntiau gwahanol. Os hoffech chi anfon cais atom ni i fyw yng Ngheredigion bydd angen i chi gael Ffurflen Gais Ceredigion
-
Sut fedraf i wneud cais am gartref yn Sir Benfro?
Bydd angen i chi anfon cais i http://www.CartrefiDewisedigSirBenfro.org/ sy'n gynllun sy'n sicrhau fod yr holl gartrefi cyngor a chymdeithasau tai yn Sir Benfro yn cael eu neilltuo i'r rheini sydd â'r angen mwyaf. Bydd pawb sy'n ymgeisio yn derbyn rhif aelodaeth unigol a chaiff ei osod mewn band gwahanol (Aur, Arian neu Efydd) sy'n adlewyrchu anghenion yr ymgeiswyr. Pan fydd tenant yn gadael cartref caiff ei hysbysebu yn y Western Telegraph ac ar wefan y cyngor. Dylai ymgeiswyr sydd am gael eu hystyried ar gyfer cartref Cantref yn Sir Benfro ffonio rhif ffôn canolog a dyfynnu eu rhif aelodaeth. Caiff ei gynnig i'r ymgeisydd â'r band uchaf sy'n cydweddu â'r eiddo penodol.
-
Beth yw CartrefiDewisedig@SirBenfro?
CartrefiDewisedig@SirBenfro yw enw cynllun gosod cartrefi sy'n seiliedig ar ddewis a gyflwynwyd gan Cantref, Cymdeithas Tai Dewi Sant, Cymdeithas Tai Sir Benfro a Chyngor Sir Benfro. Mae'r cynllun wedi'i gynllunio i greu dewis ehangach i bobl sy'n chwilio am gartrefi. Wrth gynllunio CartrefiDewisedig@SirBenfro mae pob ymdrech wedi'i wneud i greu system syml ac agored sy'n hygyrch i bawb ac yn hawdd ei deall.
Bydd y cynllun newydd yn gosod mwy o bwyslais ar ddewis gan alluogi aelodau cofrestredig i weld y cartrefi sydd ar gael i'w rhentu yn y sir ac ymgeisio'n uniongyrchol amdanyn nhw. -
Pam newid i CartrefiDewisedig@SirBenfro?
Ar ôl trafod gyda'n cwsmeriaid fe welon ni nad oedd pawb yn hoffi nag yn deall sut roedd y system "pwyntiau" yn gweithio, felly penderfynwyd edrych ar ffyrdd eraill i osod ein cartrefi sy'n rhoi dewis i gwsmeriaid ymhle maen nhw'n byw a phryd fyddan nhw'n symud. Mae'r cynllun newydd wedi'i gynllunio i fod yn fwy agored a thryloyw ac i ymrymuso ein cwsmeriaid drwy gynnig rhagor o wybodaeth i ganiatáu iddyn nhw wneud dewis gwybodus am ailgartrefu yn y dyfodol
-
Sut mae'n gweithio?
Bydd CartrefiDewisedig@SirBenfro yn hysbysebu rhestr o gartrefi sydd ar gael yn y Western Telegraph, ar y rhyngrwyd ar www.CartrefiDewisedigSirBenfro.org ac mewn swyddfeydd ardal leol.
Pan fyddwch chi wedi cyflwyno cais i ymuno â'r cynllun a derbyn eich rhif aelodaeth, os gwelwch chi gartref yr hoffech gael ei ystyried ar ei gyfer, dylech gofrestru eich diddordeb drwy ffonio (01437) 764551, (01437) 763688, rhoi eich manylion ar y wefan neu gwblhau cwpon bidio. Cofiwch gynnwys eich rhif aelodaeth personol, a rhestru cyfeirnod y cartrefi yr hoffech chi gael eich ystyried ar eu cyfer ac ymateb cyn y dyddiad cau. Os ydych chi'n llwyddiannus byddwn ni'n cysylltu â chi'n uniongyrchol. Os na chlywch chi gennym ni peidiwch â phoeni - bydd rhestr arall yn cael ei hysbysebu'n fuan - parhewch i ymgeisio
-
Sut ydw i'n gwneud cais i ymuno â'r cynllun?
Gallwch gasglu ffurflen gais o unrhyw swyddfa partner tai - manylion y tu mewn i'r clawr cefn.
-
Ydych chi'n gallu fy helpu i lenwi'r ffurflen?
Ydyn. Gyda'r ffurflen ceir set o nodiadau canllaw i'ch cynorthwyo, ond os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi, gallwch alw heibio neu ffonio unrhyw un o'n partneriaid tai i gael cymorth.
-
Sut ydych chi'n penderfynu ym mha fand y byddaf i'n cael fy ngosod?
Caiff y band ei bennu ar sail yr atebion a roddwch i'r cwestiynau ar eich ffurflen gais, ac mae'n seiliedig ar eich anghenion cartrefu cyfredol.
Haen Efydd - cwsmeriaid sydd yn dymuno symud oherwydd dewis personol, yn hytrach nag angen ariannol, lles neu feddygol dybryd e.e. perchen-feddianwyr
Haen Arian - cwsmeriaid sydd â rhywfaint o angen symud ond sy'n gallu dod i ben yn gyffredinol yn eu cartrefi presennol, e.e. cwsmeriaid mewn llety preifat ar rent neu sydd ag anhwylder meddygol fyddai'n cael ei leddfu trwy symud.
Haen Aur - cwsmeriaid y mae symud yn hanfodol iddyn nhw, e.e. rhai cwsmeriaid digartref neu'r rhai sydd heb amwynderau sylfaenol. Bydd blaenoriaeth ond yn cael ei rhoi os yw'r cyflwr meddygol yn cael ei effeithio gan eich sefyllfa cartrefu bresennol ac y byddai'n cael ei liniaru pe byddech chi'n symud
-
A fyddaf i'n cael blaenoriaeth os oes gennyf i gyflwr meddygol?
Bydd y lefel o flaenoriaeth cael ei seilio ar ddifrifoldeb y cyflwr, yr effaith mae eich sefyllfa cartrefu bresennol yn ei gael arno a'r lefel o wellhad fyddai'n deillio o symud.
Ni fydd dim blaenoriaeth i anhwylder meddygol, pa mor ddifrifol bynnag, os na fydd symud yn gwella'r anhwylder, os ydych eisoes yn byw mewn llety addas neu os oes modd gwneud addasiadau i'ch cartref presennol
-
Beth sy'n digwydd os nad wyf i'n cytuno â'r haen neu ddyddiad cofrestru?
Os nad ydych yn cytuno â'n penderfyniadau, yn y lle cyntaf dylech gysylltu â'r uwch swyddog tai fydd yn cadarnhau'r wybodaeth ac yn ceisio datrys y mater. Os ydych yn parhau yn anfodlon, gallwch ofyn am adolygiad drwy gysylltu â'r swyddfa cartrefu o fewn 21 diwrnod o gadarnhau eich haen a'r dyddiad.
-
Sut allaf i godi i'r band nesaf?
Unwaith i'ch cais gael ei asesu ac i chi gael eich gosod mewn band, oni bai bod eich amgylchiadau'n newid bydd eich band yn aros yr un fath, ond wrth i amser fynd ymlaen, byddwch yn symud yn uwch o fewn y band hwnnw.
Os gwnewch chi rywbeth bwriadol i waethygu eich amgylchiadau cartrefu, cyflenwi gwybodaeth anghywir neu ddal gwybodaeth yn ôl, byddech yn cyflawni trosedd a gallech drwy gollfarn ddiamod gael eich dirwyo, dileu eich cais o'r cynllun, neu os ydych wedi cael eich ailgartrefu, gallech chi golli eich tenantiaeth.
-
Beth sy'n digwydd os yw fy amgylchiadau'n newid?
Os bydd eich amgylchiadau'n newid rhaid i chi ddweud wrthym ni drwy gysylltu ag unrhyw un o'r darparwyr cartrefi a chwblhau ffurflen newid amgylchiadau (ni fydd eich dyddiad cofrestru yn cael ei effeithio).
-
Pwy sy'n cael ymgeisio am gartrefi?
Caiff pawb sydd wedi cofrestru ar gynllun CartrefiDewisedig@SirBenfro wneud cais am gartref. Gellir cael ffurflenni cais gan unrhyw un o'r darparwyr tai.
-
A fydd pob cartref yn cael ei hysbysebu?
Yn gyffredinol bydd y mwyafrif o gartrefi yn cael eu hysbysebu fel hyn. Bydd rhai amgylchiadau pan na chaiff eiddo gwag ei hysbysebu yn y modd arferol. Er enghraifft os bydd angen i landlordiaid ddefnyddio'r eiddo gwag ar gyfer symud tenantiaid cyfredol dros dro neu os oes addasiad penodol gan eiddo sydd wedi'i bennu ar gyfer achos penodol.
-
Lle caiff y cartrefi eu hysbysebu?
Caiff y cartrefi i gyd eu hysbysebu yn y Western Telegraph, yn y swyddfeydd cartrefu lleol ac ar y rhyngrwyd: www.CartrefiDewisedigSirBenfro.org a www.pembrokeshire.gov.uk
-
Lle gallaf i gysylltu â'r rhyngrwyd?
Gallwch ddefnyddio cyfrifiaduron yng nghanolfannau gwasanaethau cwsmer y Cyngor, yn ein swyddfeydd ni, ym mhob llyfrgell ac mewn rhai asiantaethau gwirfoddol drwy'r sir.
-
Lle ddylwn i gyflwyno cais am gartref?
Os gwelwch chi gartref yn cael ei hysbysebu sy'n addas i'ch anghenion chi gallwch ymgeisio'n uniongyrchol amdano drwy ffonio(01437) 764551 neu (01437) 763688, drwy ddilyn y dolenni ar CartrefiDewisedig@SirBenfro.org neu lenwi cwpon bidio.
Cofiwch ddyfynnu eich rhif aelodaeth a chyfeirnod yr eiddo. Eich cyfrifoldeb chi yw gwneud yn siŵr ein bod ni'n derbyn eich diddordeb erbyn y dyddiad cau ar yr hysbyseb. Ni chaiff unrhyw gynigion sy'n dod i lawr ar ôl y dyddiad hwnnw eu hystyried.
-
Pa gartrefi gaf i ddewis a pha rai sy'n addas?
Mae'r holl eiddo h.y. diben cyffredinol, tai a addaswyd ar gyfer pobl anabl a llety ymddeol mewn ardaloedd o alw uchel ac isel, wedi'u cynnwys yn y cynllun CartrefiDewisedig@Sir Benfro
Bydd maint a math y cartref y gallwch wneud cais amdano'n dibynnu ar y nifer o bobl sydd yn eich cartref a'r math o gartref sydd arnoch chi a'ch teulu ei angen. Nesaf at bob eiddo fe welwch wybodaeth am y lleoliad, math, maint, rhent a pha fath o unigolyn neu deulu fyddai'n addas i'r cartref. Bydd rhai cartrefi'n cael eu hysbysebu'n benodol ar gyfer pobl arbennig, e.e. llety a addaswyd ar gyfer pobl anabl. Yng nghefn gwlad, efallai y bydd pobl â chysylltiad lleol cryf yn cael blaenoriaeth ar rywfaint o eiddo. Byddwn ni'n edrych ar fanylion cwsmeriaid i wneud yn siŵr fod y meini prawf yn cael eu cydweddu. Er enghraifft, ni fyddai teulu yn gymwys i ymgeisio am fyngalo sydd wedi'i gynllunio ar gyfer unigolyn oedrannus. Nodwch y bydd pobl yn dal i fyw yn rhai o'r cartrefi a gaiff eu hysbysebu, ac er ein bod ni'n eich annog i weld a yw'r lleoliad yn addas, ni fyddwch chi'n derbyn gwahoddiad i weld tu mewn y tÅ· oni bai bod eich cais yn llwyddiannus. Gofynnwn i chi beidio ag amharu ar y tenant presennol drwy ofyn am gael gweld eu cartref.
-
Beth mae'n ei olygu pan fydd eiddo'n cael ei hysbysebu'n 'ffafrio' cwsmeriaid gyda chysylltiad lleol?
Mewn rhai ardaloedd lle ceir nifer cyfyngedig o eiddo, bydd canran o'r cartrefi yn cael eu hysbysebu fel rhai fydd yn ffafrio'r rheini sydd â chysylltiad clos â'r gymuned honno. Nid yw hynny'n golygu na chaiff cwsmeriaid heb gysylltiad wneud cais ond, wrth lunio rhestr fer, byddwn yn edrych gyntaf ar gwsmeriaid sydd â chysylltiad cryf â'r pentref arbennig hwnnw. Dylai hyn helpu i gynnal ein cymunedau. Byddwn yn dal i edrych ar addasrwydd cyn gwneud cynnig ac ni fyddwn yn gwneud cynnig os nad yw'r eiddo'n cyfateb i anghenion yr ymgeisydd, e.e. ni fyddem yn cynnig tÅ· sy'n ddigon mawr i deulu i rywun sengl hyd yn oed os mai dyma'r unig gais a wnaed gan rywun â chysylltiad lleol.
-
Beth sy'n digwydd os nad wyf eisiau unrhyw un o'r cartrefi sy'n cael eu hysbysebu?
Peidiwch â phoeni, does dim rhaid i chi wneud dim byd, a chewch chi ddim eich cosbi am beidio ag ymateb. Bydd rhestr arall yn ymddangos yr wythnos ganlynol, felly parhewch i edrych.
Os ydych chi'n ymgeisydd digartref ac wedi derbyn cerdyn blaenoriaeth, rhaid i chi ymgeisio am unrhyw gartrefi addas o fewn y cyfnod amser a bennir. Os na wnewch chi hynny, gallai'r cerdyn blaenoriaeth ddod i ben.
-
Am faint o gartrefi gaf i wneud cais?
Cewch wneud cais am hyd at dri eiddo bob tro a gallwch gael cynnig unrhyw un o'r cartrefi y ceisiwyd amdanyn nhw.
-
Sut ydych chi'n blaenoriaethu pwy sy'n cael cartref?
Yn y rhan fwyaf o ardaloedd, mae llawer o bobl yn chwilio am gartref, felly mae gennym reolau teg sy'n penderfynu pwy sy'n cael y dewis cyntaf. Bydd pawb yn cael eu gosod mewn un o dri band, aur, arian neu efydd, gan ddibynnu ar eu sefyllfa unigol. O fewn y bandiau hyn byddwch chi'n cael eich gosod yn nhrefn dyddiad derbyn eich cais cyfredol.
Bydd yr holl ymgeiswyr sy'n cyflwyno cais am eiddo ac sy'n diwallu'r meini prawf, yn cael eu cydweddu yn ôl eu hangen. Bydd deiliaid cardiau blaenoriaeth yn cael eu cydweddu yn gyntaf, band aur yn ail, band arian yn drydydd ac yn olaf y band efydd. Os bydd nifer o gartrefi yn cael eu cydweddu mewn unrhyw grŵp, y dyddiad cofrestru fydd y ffactor penderfynu.
Ni fydd cardiau blaenoriaeth yn cyfrif ar gyfer yr eiddo mwyaf poblogaidd, (eiddo sy'n derbyn dros 150 o gynigion), er bydd deiliaid cardiau yn dal i gael eu hystyried ar sail eu band gwreiddiol a'u dyddiad cofrestru
-
Pa mor hir wyf i'n debygol o fod yn aros?
Mae'n anodd rhagweld hyn oherwydd ei fod yn dibynnu ar eich lefel o angen, dewis o ardal, y math o eiddo rydych chi'n ymgeisio amdano a faint o eiddo sydd ar gael. Bydd yr adborth a roddwn ar y cwsmeriaid llwyddiannus yn rhoi syniad i chi o faint y bydd angen i chi aros am eiddo tebyg.
-
A fyddwch chi'n cysylltu â fi os nad wyf i'n llwyddiannus?
Yn anffodus oherwydd y nifer o gwsmeriaid sy'n ymgeisio bob wythnos, ni fydd modd cysylltu â phawb. Dim ond os byddwch chi'n llwyddiannus y byddwn ni'n cysylltu â chi felly. Os na chlywch chi ddim byd o fewn deg diwrnod o'r dyddiad cau, dylech gymryd nad ydych chi wedi bod yn llwyddiannus, a pharhau i ymgeisio. Mae'r adborth a roddir yn cynnwys band a dyddiad ymgeisio'r unigolyn llwyddiannus a gallai hynny esbonio pam nad oeddech chi'n llwyddiannus a pha mor hir y gallech orfod aros cyn derbyn cynnig ar eiddo tebyg
-
Beth sy'n digwydd os wyf i'n llwyddiannus a'ch bod chi'n gwneud cynnig i fi?
Bydd manylion y cais sydd â'r flaenoriaeth uchaf yn cael eu gwirio i wneud yn siŵr fod yr wybodaeth a gynhwysir ar y ffurflen gais yn gywir. Ar y cam hwn byddwn ni hefyd yn gwirio pethau fel dyledion rhent (ni fydd ymgeiswyr sydd â dyledion rhent fel arfer yn cael cynnig eiddo - cysylltwch â'ch darparwr tai, a all roi'r cyngor priodol o ran dyledion rhent).
Os yw'r manylion yn gywir a'ch cynnig yn llwyddo, byddwn yn cysylltu'n uniongyrchol â chi, gan roi cynnig dros dro i chi a threfnu i chi weld yr eiddo. Os ydych yn dal i fod â diddordeb yn yr eiddo byddwn yn gwneud cynnig ffurfiol i chi ac yn eich hysbysu pryd cewch chi lofnodi'r cytundeb tenantiaeth a symud i mewn.
-
Beth sy'n digwydd os ydych chi'n gwneud cynnig i fi ond rwyf i'n newid fy meddwl?
Os ydych chi'n cael cynnig ysgrifenedig, neu os ydych chi'n newid eich meddwl wrth weld yr eiddo neu os ydych chi'n teimlo nad yw'n diwallu eich anghenion, peidiwch â phoeni, ni fyddwch chi'n cael eich cosbi am wrthod cynnig (oni bai eich bod wedi derbyn cynnig sy'n gysylltiedig â cherdyn blaenoriaeth (cwsmeriaid digartref)). Parhewch i edrych ac ymgeisio am dai yn y dyfodol yn yr un ffordd ag o'r blaen.
-
Beth sy'n digwydd os nad wyf i fyth yn llwyddiannus?
Yn anffodus nifer cyfyngedig iawn o gartrefi sydd gennym ni, a bydd bob amser mwy o alw nag o gyflenwad. Fodd bynnag, mae'r dull hwn o ddyrannu'n dibynnu arnoch chi, fel cwsmer, yn ymgeisio am gartrefi.
Os nad ydych chi'n ymgeisio, chewch chi ddim cynnig eiddo drwy'r cynllun.
I'ch cynorthwyo chi i wneud y penderfyniadau cywir, byddwn ni'n cyhoeddi adroddiad rheolaidd ar y lefel o ddiddordeb rydyn ni'n ei dderbyn o bob hysbyseb. Bydd hyn yn dangos i chi o faint o bobl sydd wedi ymgeisio am bob cartref a pha mor hir y bu'r unigolyn llwyddiannus yn aros, a gallai hyn eich helpu chi i ddewis pa fath o gartref y dylech chi fod yn ymgeisio amdano os ydych chi'n dymuno symud yn gyflymach.
-
Os byddaf yn cael cynnig cartref pa mor gyflym gaf i symud iddo?
Yn anffodus, gyda rhai cartrefi ni allwn ddweud pryd y gall tenantiaethau ddechrau, am na wyddom faint o waith sydd ei angen hyd nes bydd y tenant blaenorol yn gadael. Mae'r Cyngor hefyd yn ceisio sicrhau bod ei holl gartrefi'n cyrraedd safonau newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru. Er mwyn lleihau amhariad, bydd y Cyngor yn gwneud cymaint o waith ag y bo modd cyn i denant newydd symud i mewn. Gallai hyn gynnwys gosod gwres canolog, ail-wifrio neu waith plymio.
Cyn gynted ag y bydd yr eiddo'n barod a'r allweddi ar gael, byddwn yn eich hysbysu. Yna byddwch yn gallu gweld yr eiddo, penderfynu a ydych ei eisiau ac, os felly, llofnodi'r cytundeb tenantiaeth a symud i mewn.
-
Beth sy'n digwydd os wyf i'n wynebu bod yn ddigartref neu'r bygythiad o fod yn ddigartref?
Os ydych chi'n eich cael eich hun yn ddigartref, bydd angen i chi gysylltu â'r swyddog dyletswydd digartrefedd yn swyddfeydd Cyngor Sir Benfro yn Neuadd y Cyngor, Hwlffordd, a all eich helpu i gwblhau ffurflen digartrefedd a rhoi cyngor a chymorth hi chi. Os pennir blaenoriaeth angen i chi, byddwch chi'n derbyn cerdyn blaenoriaeth, fydd yn gymwys am gyfnod penodedig.
-
Os wyf i'n cael cartref drwy CartrefiDewisedig@Sir Benfro, a fydd hyn effeithio ar fy hawliau fel tenant?
Na fydd. Mae CartrefiDewisedig@Sir Benfro yn ffordd newydd o ddyrannu cartrefi. Mae eich hawliau fel tenant yn aros yr un fath, ond dylech ofyn am gyngor gan landlordiaid unigol ynglÅ·n â materion fel hawl i brynu, hawl i gaffael ac ati.
-
Os wyf i'n cael cartref drwy CartrefiDewisedig@Sir Benfro a fydd hyn yn effeithio ar fy nghymhwyster ar gyfer Budd-dal Tai?
Na fydd. Bydd y rheolau arferol ar gyfer budd-daliadau tai yn gymwys. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chyngor Sir Benfro lle gallwch chi siarad â chynghorydd budd-daliadau tai.
-
A fyddaf i'n dal i gael adolygiad blynyddol?
Byddwch, unwaith y flwyddyn byddwn ni'n ysgrifennu atoch chi i gadarnhau nad yw eich amgylchiadau wedi newid ers i chi ymuno â'r cynllun. Os nad ydych chi'n dychwelyd y ffurflen, bydd eich cais yn cael ei ddiddymu ac ni fyddwch chi'n gallu ailymgeisio am gartref tan i chi ailgofrestru. Yna y dyddiad y byddwch chi'n ailymgeisio fydd y dyddiad newydd a ddefnyddir i bennu eich lle o fewn y bandiau.
-
Ydy hi'n bosibl i mi gynyddu'r tebygrwydd o gael cynnig?
Trafodwch y dewisiadau rydych chi wedi'u gwneud yn eich cais gyda ni. Mae'n bosibl y byddwch chi'n gallu cynyddu'r tebygrwydd o dderbyn cynnig drwy newid eich dewis o ardal neu fath o eiddo.
-
Lle gaf i fanylion llawn y cynllun?
Cysylltwch â ni am gopi o'r polisi dyrannu llawn
-
Sut fedraf i wneud cais am gartref yn Sir Gaerfyrddin?
Rydyn ni'n bartner ar Gofrestr Dai Sir Gaerfyrddin gyda'r cyngor a thair cymdeithas dai arall sy'n rhan o'r Gofrestr. Bob tro bydd tenant yn gadael un o'n cartrefi yn Sir Gaerfyrddin caiff ei gynnig i ymgeiswyr sydd ar y Gofrestr Dai. I gael rhagor o fanylion gweler www.carmarthenshire.gov.uk
-
Sut fedraf i wneud cais am gartref ym Mhowys?
Nid oes gennym ni restr aros i ymgeiswyr sy'n dymuno byw ym Mhowys. Bob tro bydd tenant yn gadael un o'n cartrefi ym Mhowys caiff ei gynnig i ymgeiswyr a gaiff eu henwebu gan y cyngor. Os hoffech chi ddod yn denant Cantref ym Mhowys, bydd angen i chi ymgeisio i ymuno â Rhestr Aros y cyngor. Gweler www.powys.gov.uk
-
Os yw fy nghais am gartref yn llwyddo, beth sy'n digwydd nesaf?
Byddwn ni'n anfon cynnig o denantiaeth i chi yn ysgrifenedig. Bydd angen i chi ymateb o fewn tri diwrnod gwaith. Os na fyddwn yn clywed gennych, fe fyddwn ni wedyn yn anfon cynnig o denantiaeth am yr un eiddo i ymgeisydd arall ar y Rhestr Aros. Bydd y llythyr cynnig yn cynnwys y cyfeiriad llawn, y math o eiddo, maint yr ystafelloedd gwely, a’r rhent/ tâl gwasanaeth wythnosol sydd i’w dalu. Rhaid i chi ystyried y cynnig rydych chi wedi’i dderbyn yn ofalus. Nid yw bob amser yn bosibl i chi weld yr eiddo ar yr adeg y gwneir y cynnig oherwydd gallai'r tenant sy’n gadael fod yn byw yno o hyd. Os ydych am dderbyn y cynnig cyn gweld yr eiddo, yna rhaid i chi ddychwelyd y slip derbyn. Gellir trefnu i chi weld yr eiddo unwaith iddo ddod yn wag. Os ydych chi wedyn yn penderfynu nad ydych am dderbyn, gallwch wrthod y cynnig. Ni fydd hyn yn effeithio ar eich safle ar y rhestr aros, cyhyd â bod gennych reswm dilys dros wrthod. Os ydych chi'n derbyn y cynnig byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd y cartref yn barod i chi symud i mewn. Fe fyddwn ni'n trefnu dyddiad ac amser sy'n gyfleus i gyfarfod â chi er mwyn i ni allu rhoi'r allweddi i chi ac esbonio popeth sydd angen i chi ei wybod.
-
Os wyf i'n dod yn denant, pa fath o denantiaeth fyddaf i'n ei gael?
Pan fyddwch chi'n dod yn denant rydych chi'n llofnodi cytundeb tenantiaeth â ni, ac mae gwahanol fathau i'w cael:
Tenantiaethau Prawf - mae'n holl denantiaid newydd yn llofnodi tenantiaeth brawf am 12 mis, ac yn ystod y cyfnod hwn mae'n bwysig nad ydych chi'n torri'r cytundeb oherwydd gallai hyn olygu eich bod yn colli eich cartref. Rydyn ni'n gwneud pob ymdrech i'ch cefnogi yn eich tenantiaeth ond yn anffodus dyw hyn ddim bob amser yn bosibl.
Tenantiaethau Sicr - Os nad ydych chi'n torri'r cytundeb tenantiaeth brawf fe gewch chi Denantiaeth Sicr. Mae hyn yn rhoi mwy o sicrwydd i chi ac os torrwch chi'r cytundeb mae'n golygu na fyddwch chi'n colli eich cartref heb wrandawiad llys.
Tenantiaethau Diogel - mae gan rai tenantiaid yr hyn a elwir yn ‘Denantiaeth Ddiogel', gyda’r un ymrwymiadau tenantiaeth a sicrwydd deiliadaeth â thenantiaid sicr ond gyda rhai gwahaniaethau megis yr hawl i brynu eich cartref. -
Pa gyfrifoldebau sydd gennyf i fel tenant?
Mae bod yn denant yn golygu bod gennych chi gyfrifoldebau pwysig, ac mae esboniad llawn o'r rhain yn eich Llawlyfr Tenantiaid. Mae'r rhain yn cynnwys, er enghraifft: talu eich rhent yn brydlon; cadw tu fewn i'ch cartref mewn cyflwr da; atgyweirio niwed rydych chi neu ymwelydd wedi’i achosi; cadw tu allan eich cartref yn rhydd o sbwriel. Mae'r Cytundeb hefyd yn egluro bod ymddygiad fel defnyddio iaith anweddus ac unrhyw ffurf ar aflonyddu yn annerbyniol. Hefyd bydd angen i chi gael caniatâd cyn gwneud rhai pethau, fel cadw anifail anwes, codi disg lloeren, rhedeg busnes neu is-osod eich cartref.
-
Sut mae Cantref yn ymdrin ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol?
Rydyn ni'n ystyried ymddygiad gwrthgymdeithasol yn fater difrifol iawn ac ni fyddwn yn goddef ymddygiad sy'n niwsans i denantiaid eraill a phreswylwyr eraill yn y gymuned leol. Os bydd problem yn codi cysylltwch â ni gan ein bod ni wedi ymrwymo i weithredu yn erbyn y rhai sy’n gyfrifol.
-
Beth ddylwn i ei wneud os wyf i am ddod â fy nhenantiaeth i ben?
Os hoffech derfynu eich tenantiaeth a symud o’ch cartref, rhaid i chi roi rhybudd ysgrifenedig i ni o leiaf bedair wythnos o flaen llaw. Rhaid i chi adael eich cartref a'ch gardd yn lân, mewn cyflwr da ac yn glir rhag sbwriel.
Bydd un o swyddogion Cantref yn ymweld â chi cyn i chi adael er mwyn archwilio’r eiddo.Gall y swyddog ddweud wrthych chi pa waith ailaddurno neu atgyweirio sydd ei angen. Mae’n rhaid i chi brynu celfi gosod a ffitiadau newydd yn lle unrhyw rai sydd wedi torri. Os na wnewch chi hynny bydd rhaid i ni godi tâl arnoch chi. Byddwn ni hefyd yn gwaredu unrhyw beth sy'n cael ei adael ar ôl.Bydd unrhyw beth sy'n cael ei adael ar ôl yn yr eiddo yn cael ei waredu ac mae'n bosibl y bydd rhaid i chi dalu cost hynny.
Cofiwch barhau i dalu eich rhent hyd at y dydd Llun ar ddiwedd y cyfnod o bedair wythnos o rybudd ysgrifenedig yr ydych wedi’i roi. Hyd yn oed os byddwch yn gadael yr eiddo cyn hyn, rhaid i chi barhau i dalu swm sy’n cyfateb i’ch rhent a’r taliadau gwasanaeth hyd at y dyddiad hwn. Rhaid i chi ddychwelyd eich allweddi i un o swyddfeydd Cantref erbyn canol dydd ar y dydd Llun olaf.
-
Ydw i'n cael cymryd lletywr?
Lletywr yw unigolyn sy’n byw gyda’r teulu ond sydd heb ei ystafell neu stafelloedd preifat ei hun. Ar yr amod bod gennych ddigon o le yn eich cartref, nid oes angen i chi gael caniatâd gennym i gadw lletywr. Fodd bynnag, rhaid i chi roi enw ac oedran y lletywr i ni fel y gallwn sicrhau nad oes gormod o bobl yn byw yn yr un tÅ·. Ni fydd gan eich lletywr unrhyw hawliau dan y Cytundeb Tenantiaeth. Eich cyfrifoldeb chi yw’r lletywr a chi fydd yn gorfod gofyn iddo adael yr eiddo pan fyddwch eisiau iddo wneud hynny.
-
Ydw i'n cael gosod fy nhÅ· i rywun arall?
Mae is-osod yn wahanol i gadw lletywr. Bydd gan is-denant ystafell breifat ond bydd yn rhannu eich cyfleusterau. Bydd rhaid i chi gael caniatâd ysgrifenedig gan Cantref cyn y gallwch is-osod eich cartref.
Pwysig: Os ydych yn gymwys am Fudd-dal Tai, rhaid i chi hysbysu Adran Budd-dal Tai eich Awdurdod Lleol os byddwch yn cadw lletywr neu’n is-osod eich cartref gan y bydd hyn yn effeithio ar gyfanswm y budd-dal y cewch ei hawlio.
-
Ydw i'n cael cadw anifeiliaid anwes?
Mae gennych hawl i gadw nifer rhesymol o bysgod ac anifeiliaid neu adar bach mewn cawell ar yr amod nad ydynt yn achosi poendod i’ch cymdogion. Ni allwch gadw unrhyw anifail y mae angen ei gofrestru â’r Awdurdod Lleol. Yn ogystal, mae angen i chi ofyn am ein caniatâd i gadw ci neu gath. Bydd caniatâd i gadw anifail o’r fath yn dibynnu ar y math o eiddo yr ydych yn byw ynddo a’i faint. Er enghraifft, yn gyffredinol, ni fyddwch yn cael caniatâd i gadw ci neu gath os ydych yn byw mewn fflat neu unrhyw eiddo â mynedfa neu gyntedd a rennir, neu os nad oes gennych eich gardd eich hun. Wrth gwrs, ceir eithriadau yn achos cŵn tywys. Os oes angen i chi gadw ci tywys, byddwn yn gwneud ein gorau i ddarparu llety addas ar eich cyfer.
-
Beth ddylwn i wneud os oes angen atgyweirio rhywbeth?
Er mwyn rhoi gwybod i ni am waith atgyweirio y mae angen ei wneud, ffoniwch eich Tîm Ardal. Mae’r swyddfa ar agor rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Iau, a rhwng 9am a 4pm ar ddydd Gwener. Bydd angen i chi roi'r wybodaeth ganlynol i ni:
- Eich enw, eich cyfeiriad a’ch rhif cyswllt
- Yr hyn yr ydych yn meddwl sydd angen ei wneud, gan roi cymaint o fanylion ag sy’n bosib
- Yr amser y bydd rhywun gartref er mwyn i ni allu gwneud y gwaith atgyweirio neu gynnal archwiliad. Rhaid sicrhau mynediad i'n contractwyr pan fydd angen.
-
Pryd fydd fy atgyweiriad yn cael ei wneud?
Rydyn ni'n gwneud atgyweiriadau yn ôl brys:
Gwaith atgyweirio brys O fewn 24 awr Gwaith atgyweirio buan O fewn 7 diwrnod Gwaith atgyweirio cyffredinol O fewn 28 diwrnod Gwaith cynnal a chadw cynlluniedig Rhaglennwyd -
Beth ddylwn i ei wneud os oes angen atgyweirio rhywbeth ar frys?
Cysylltwch â'ch Tîm Ardal yn ystod oriau swyddfa. Os oes angen cymorth y tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch 01239 712000
-
Beth yw atgyweiriad brys?
Mae’r rhain yn bethau a allai effeithio ar iechyd neu ddiogelwch y tenant os nad ydynt yn cael eu hatgyweirio:
- Diffygion trydanol difrifol/gwifrau sydd heb eu gorchuddio
- Gollyngiadau nwy
- Gollyngiadau dŵr difrifol
- Goleuadau ddim yn gweithio o gwbl
- Achosion lle mae’r system wresogi yn torri yn ystod tywydd garw mewn cartrefi lle ceir pobl hÅ·n, pobl anabl neu blant dan 5 oed
- Draeniau, cwteri ac ati sydd wedi’u blocio ac sy’n debygol o achosi llifogydd neu ddifrod arall
- Diffyg dŵr (ac eithrio’r prif gyflenwad dŵr)
- Difrod sydd wedi’i achosi gan dân, llifogydd neu stormydd
- Strwythur peryglus neu ddifrod sy’n debygol o beryglu bywyd person neu’i anafu (e.e. cerrig rhydd)
- Pibellau dŵr sy’n gorlifo (yn ystod tywydd lle ceir rhew yn unig).
-
Atgyweiriadau – pwy sy'n gyfrifol am beth? Ein cyfrifoldeb niEich cyfrifoldeb chiGorchuddion to, cafnau a phibellau dŵr glawCadw tu mewn yr eiddo mewn cyflwr daSimneiau (gan gynnwys eu glanhau a’u cynnal a’u cadw ddwywaith y flwyddynNewid y cloeon a’r allweddi ar ôl i chi golli allweddWaliau allanol, gwaith pwyntio ac ailaddurnoAilosod gwydr mewn ffenestri, drysau a ffenestri linter oni bai bod y Gymdeithas yn cael rhif trosedd mewn perthynas â’r difrodDraeniauAilosod bylbiau golau, tiwbiau fflworolau, tanwyr, plygiau a ffiwsys y gellir eu hailweirioDrysau a fframiau drysau allanol gan gynnwys eitemau haearnPrynu plygiau a chadwyni newydd i’w rhoi mewn baddonau, basnau a sinciauFfenestri, silffoedd ffenestri, cliciedi ffenestri, cortyn ffenestri a fframiau ffenestriAilosod neu ail-ffitio’r gosodiadau sydd yn yr ystafell ymolchi gan gynnwys rheiliau ar gyfer tywelion, teclynnau dal papur tÅ· bach, seddi toiledau a wasieri ar dapiauWaliau mewnol, lloriau a nenfydau (heb gynnwys gwaith addurno)Ailosod leiniau sychu dillad, sychwyr troi a physt ar gyfer leiniau (ac eithrio mewn mannau cymunedolDrysau a fframiau drysau mewnol, colfachau drysau a sgertins (heb gynnwys gwaith addurno mewnol)Erialau a socedi teledu (ac eithrio systemau cymunedol)Llwybrau, grisiau a mynedfeydd eraillFfyn llenni a bleinds rholioGwaith plastroToiledau, pibellau gwastraff mewnol, trapiau a chwteri sydd wedi’u blocioGarejis a storfeyddSilffoeddWaliau terfyn, ffensys a ietau safleGwaith addurno mewnolGosod cyfarpar mewn perthynas â’r cyflenwad dŵr, nwy a thrydan yn ogystal â chyfarpar carthffosiaeth,gan gynnwys:Biniau sbwrielToiledau, systemau tynnu dŵr, pibellau dŵr, baddonau, sinciau, tapiauTynnu dŵr o’r gwresogyddionGwifrau trydan gan gynnwys socedi a switshis, ffitiadau golau, pibellau nwy a phibellau dŵrLlenwi craciau bach yn y plasterGwresogyddion dŵr sefydlog, lleoedd tân, gwresogyddion sefydlog a systemau gwres canologLlyfnhau drysau ar ôl gosod carpediY cyfarpar amddiffyn rhag tân a synhwyro mwg a ddarperir gan Cantref. Nid yw Cantref yn gyfrifol am gynnal a chadw unrhyw gyfarpar y mae’r tenant wedi’i osod heb ein caniatâd nac am sicrhau bod y cyfarpar hwnnw’n gweithio. Yn ogystal nid yw Cantref yn gyfrifol am wneud gwaith o'r fath i gyfarpar y mae hawl gan y tenant gael gwared arno neu sydd wedi’i ddifrodi’n fwriadol neu’n ddamweiniol gan y tenant, aelod o’r cartref neu unrhyw ymwelydd, boed yn ymwelydd a gafodd ei wahodd ai peidioGosod a chynnal a chadw offer domestig (ffwrn, peiriant golchi, teledu ac ati)Cynnal a chadw ardaloedd cymunedol
- Mynedfeydd, cynteddau a choridorau
- Grisiau a lifftiau
- Goleuadau
- Systemau agor drws
- Golchdai ac unrhyw offer sydd ynddynt a ddarparwyd gan Cantref
Cael gwared ar ddarnau mawr o sbwriel o’ch cartref a’ch garddAtgyweirio unrhyw ddifrod a gaiff ei achosi yn ystod y gwaith o osod dysgl loeren neu erial deleduAtgyweirio unrhyw ddifrod a gaiff ei achosi gan waith y mae’r tenant neu ymwelydd yn ei wneud i wella’r eiddo -
Beth gallaf i wneud os wyf i'n colli fy allweddi?
Chi sy’n gyfrifol am yr allweddi i’ch eiddo. Nid yw Cantref yn cadw set o allweddi sbâr. Os byddwch yn colli eich allweddi, eich cyfrifoldeb chi fydd sicrhau bod y cloeon yn cael eu newid. Os byddwch yn cysylltu â ni, gallwn drefnu bod un o’n contractwyr yn gwneud hyn ond chi fydd yn talu am y gwaith (a fydd yn cynnwys tâl galw). Os ydych yn byw yn un o’n canolfannau lloches, bydd gan y warden brifallwedd a fydd ond yn cael ei defnyddio mewn argyfwng.
-
A gaf i wneud gwelliannau i fy nghartref?
Cyn i chi wneud unrhyw newidiadau neu welliannau i’ch cartref rhaid i chi ysgrifennu atom ni gan esbonio'r hyn rydych chi am ei wneud a chynnwys cynlluniau manwl os oes angen. Ni chewch wneud unrhyw newidiadau na gwelliannau cyn cael caniatâd gennym ni.
-
Rwyf i'n denant, ac yn cael trafferth symud o gwmpas fy nghartref, ac felly angen rhai addasiadau. Pwy all fy helpu?
Bydd angen i chi gysylltu â'r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn eich cyngor sir i ofyn am asesiad gan Therapydd Galwedigaethol.
Cyngor Sir Ceredigion:
01545 574000Cyngor Sir Benfro:
01437 764551Cyngor Sir Gaerfyrddin:
Tîm Oedolion 01267 224421;
Tîm Plant 01554 742322Cyngor Sir Powys:
01597 827102Bydd y Therapydd Galwedigaethol yn ymweld â'ch cartref ac os oes angen addasiadau, bydd yn anfon adroddiad atom ni. Os yw'r addasiadau'n ymarferol ac yn briodol, gallwn ni drefnu iddyn nhw gael eu gwneud, drwy broses y Grant Addasiadau Ffisegol. Byddwn ni'n paratoi cynllun, yn prisio'r gwaith ac yn ymgeisio am gymorth grant oddi wrth y Cynulliad i ariannu’r gwaith a threfnu i gontractwr ei wneud.
-
Os oes gen i eitemau mawr o ddodrefn nad wyf i am eu cadw, ydy Cantref yn gallu helpu i gael gwared arnyn nhw?
Dydyn ni ddim yn darparu gwasanaeth gwastraff, ond bydd eich cyngor lleol yn darparu gwasanaeth am ffi fach. Os hoffech chi iddyn nhw gasglu eitemau, cysylltwch â nhw gan roi'r manylion canlynol:
- Eich enw a'ch cyfeiriad
- Y math a nifer o eitemau yr hoffech chi iddyn nhw eu casglu
Mae'n werth holi cymdogion a oes ganddyn nhw eitemau i'w casglu fel bod modd rhannu cost y casgliad. -
Ydych chi'n gallu helpu os wyf i'n cael trafferth talu fy rhent?
Ydyn, ond cysylltwch â ni ar unwaith pan fydd problem yn codi er mwyn i ni allu gweithio gyda chi i leddfu'r broblem cyn i'r ddyled fynd yn ormodol. Mae’n bosib y byddwch yn gymwys i gael budd-daliadau nad ydych yn eu hawlio neu’n eu cael ar hyn o bryd. Efallai y bydd un o’n Swyddogion Lletya yn gallu eich helpu neu roi cyngor i chi ynglÅ·n â chysylltu ag asiantaethau eraill fydd yn gallu eich helpu. Mae dyledion rhent yn fater difrifol - rydyn ni'n dibynnu ar yr incwm yr o’n rhenti i redeg ein busnes. Ond rydyn ni'n awyddus i helpu tenantiaid i reoli eu hincwm a chadw'r ddyled i lawr.
-
Sut wyf i'n cwyno os wyf i'n anhapus am unrhyw rai o'r gwasanaethau mae Cantref yn eu cyflenwi i mi?
Os ydych yn anhapus â’n perfformiad, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl. Defnyddiwch y ffurflen gyswllt ar y safle hwn neu ffoniwch ni. Fe hoffen ni ddatrys eich problem ar unwaith ond ambell waith dyw hynny ddim yn bosibl ac mae'n bosibl y byddwch am gyflwyno cwyn. Mae gennym weithdrefn gwyno ac i gael rhagor o wybodaeth, gallwch weld ein polisi cwyno yma.
-
Os wyf i'n anhapus â'r ffordd mae Cantref wedi ymdrin â fy nghwyn, oes modd i mi gwyno i rywun arall?
Os ydych chi'n dal i fod yn anfodlon ar ôl i ni gwblhau ein hymchwiliad mewnol, gallwch gwyno i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:
Cyfeiriad:
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1 Ffordd yr Hen Gae
Pen-coed
Pen-y-bont ar Ogwr
CF35 5LJ
Rhif ffôn:
01656 641 150
Ffacs:
01656 641 199
Ebost:
ask@ombudsman-wales.org.ukGwefan:
www.ombudsman-wales.org.uk
