Ymunwch â ni

Ymunwch â ni fel aelod

Rydyn  ni am i'n busnes gynrychioli'r bobl rydyn ni'n eu cartrefu a'r cymunedau lle mae ein cartrefi. Mae dod yn aelod yn golygu y gallwch fynychu a phleidleisio yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, derbyn ein Hadroddiad Blynyddol a sefyll etholiad i'r Bwrdd - sy'n golygu y gallwch gael llais gwirioneddol yn ein gwaith.

Diddordeb? Yna bydd angen i chi gyflwyno cais. Rydyn ni'n croesawu ceisiadau gan denantiaid, unigolion eraill, grwpiau cymunedol a chyrff lleol. Bydd ceisiadau yn cael eu hystyried gan y Bwrdd ond bydd ceisiadau gan denantiaid yn cael eu derbyn yn awtomatig.

Llanwch y Ffurflen Gais am Gyfranddaliad a’i dychwelyd at ein Prif Weithredwr ynghyd a thâl o £1. Bydd eich cais yn cael ei ystyried yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd ac os bydd yn cael ei gymeradwyo byddwn yn anfon tystysgrif cyfranddaliwr atoch chi ynghyd â chopi o'n Rheolau a bydd eich enw yn cael ei roi yn y Gofrestr Cyfranddalwyr. Os gwrthodir eich cais byddwch yn cael gwybod y rhesymau am hynny a byddwch yn cael eich £1 yn ôl. 

Cymdeithas Tai Cantref, Llys Cantref, Church Lane, Newcastle Emlyn, SA38 9AB
ffôn: 01239 712000  |  ffacs: 01239 712001  |  e-bost: post@cantref.co.uk