Cyfleoedd Gyrfa
Ymunwch â ni fel aelod o staff
Rydyn ni'n cyflogi 67 o staff mewn amrywiaeth o swyddi. Rydyn ni’n benderfynol o recriwtio gweithlu sy’n adlewyrchu’r gymuned lle'r ydyn ni’n byw. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio i ni, fe fydden ni'n hoffi clywed gennych chi. Mae Cantref wedi ymrwymo i Gyfle Cyfartal ac yn croesawu ceisiadau oddi wrth bobl o bob cefndir. Gweler ein Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth am ragor o fanylion.
Swyddi Ar Gael : Cyfarwyddwr Tai a Gwasanaethau Cymunedol
Mae cyfle gwych wedi codi i arwain, ysgogi ac ysbrydoli ar draws pob un o’n timau sy’n ymwneud â chwsmeriaid. Fel aelod allweddol o’r Tîm Gweithredol byddwch yn cyfrannu’n effeithiol at arweinyddiaeth gorfforaethol cyffredinol y Gymdeithas, yn gyfrifol am gyrraedd safonau uchel o berfformiad ac yn darparu gwasanaeth ardderchog sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.
Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Lynne Sacale, Prif Weithredwr, ar 01239 712036.
Dyddiad cau: 14 Mai 2012
