Croeso
Cymdeithas dai yw Cantref sy’n darparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel a gwasanaethau lletya i bron i 3,500 o bobl ar draws ardal pedwar awdurdod lleol yng ngorllewin Cymru: Ceredigion, Gogledd Sir Benfro, Gogledd Sir Gaerfyrddin ac ardal Machynlleth ym Mhowys.
Mae gennym dros 1406 o gartrefi ar rent ac yn ystod y tair blynedd nesaf byddwn yn datblygu dros 140 uned newydd.
Rydyn ni’n darparu cartrefi ar gyfer teuluoedd, pobl ifanc, yr henoed, a phobl ag anghenion arbennig gan roi cymorth i’w galluogi i fyw yn y gymuned.
Dyma ein datganiad cenhadaeth:
Yn falch o droi tÅ· yn gartref i chi
Dyma ein gwerthoedd:
- Parchu anghenion ein cwsmeriaid
- Annog ffyrdd arloesol o feddwl
- Gwarchod yr amgylchedd yn y gwaith a wnawn
- Cryfhau'r cymunedau yr ydym yn gweithio ynddynt
- Hybu dwyieithrwydd

