Dod yn Denant

Mae gennym ni amrywiaeth eang o dai, byngalos a fflatiau y gallwch chi wneud cais i fyw ynddyn nhw. Mae'n cartrefi ni ar agor i bawb.

Os ydych chi'n dymuno byw yn rhywle arbennig, gallwch chi wneud cais am gartref ym mhob un o'r pedair sir lle mae gennym ni gartrefi (Ceredigion, Gogledd Sir Gaerfyrddin, Gogledd Sir Benfro ac ardal Machynlleth ym Mhowys). Gweler lleoliadau ein cartrefi yn Ein hardal Weithredu.

Gallwch wneud cais yn uniongyrchol i ymuno â'r gofrestr neu'r rhestr aros berthnasol neu gyslltu a ni. Ewch i Adnoddau a Lawrlwytho am fwy o wybodaeth neu gysylltu a ni am gyngor ar sut i wneud cais am gartref.

Rydyn ni'n cefnogi Hwyluswyr Tai Gwledig mewn tair sir - Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin. Mae’r rhain yn helpu i gynyddu’r nifer o dai fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig, gan weithio gyda chymunedau, tirfeddianwyr, swyddogion cynllunio, cymdeithasau tai a datblygwyr preifat i ganfod safleoedd datblygu posibl. Maen nhw hefyd yn rhoi'r newyddion diweddaraf i gymunedau ac yn eu cynnwys yn y broses datblygu gan godi ymwybyddiaeth o faterion tai fforddiadwy ar lefel leol

Rydyn ni hefyd yn gweithio'n agos â'n cymdeithasau tai partner (Bro Myrddin, Family a Grŵp Gwalia) yn Gorwel, consortiwm a sefydlwyd i wneud y gorau o’r adnoddau sydd ar gael a chreu cartrefi fforddiadwy o’r ansawdd gorau.
 

Dolenni cyswllt ffurfleni cais

Ffurflen gais Sir Gaerfyrddin
Ffurflen gais Ceredigion
Ffurflen gais Sir Benfro
Ffurflen gais Powys

Cymdeithas Tai Cantref, Llys Cantref, Church Lane, Newcastle Emlyn, SA38 9AB
ffôn: 01239 712000  |  ffacs: 01239 712001  |  e-bost: post@cantref.co.uk