Symud


Ambell waith mae tenantiaid yn dymuno neu'n gorfod symud i gartref arall. Mae nifer o ffyrdd y gall hyn ddigwydd.
Cydgyfnewid Tenantiaethau
Mae Cydgyfnewid Tenantiaeth yn golygu bod tenant yn cyfnewid cartref gyda thenant Cantref arall neu denant o'r cyngor neu gymdeithas dai arall. Mae angen i chi ddilyn rhai rheolau a chael caniatâd oddi wrthym ni cyn i'r cyfnewid ddigwydd. Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth os ydych eisiau cyfnewid tenantiaeth.
Trosglwyddo
Ambell waith mae ein tenantiaid yn teimlo nad yw eu cartrefi bellach yn addas iddyn nhw, a gallai fod yn bosibl eu trosglwyddo i gartref arall. Os ydych chi'n teimlo nad yw eich cartref presennol erbyn hyn yn ateb eich anghenion ac yr hoffech chi wneud cais am drosglwyddiad, cysylltwch â ni.
Gorlenwi
Bydd eich Cytundeb Tenantiaeth yn nodi uchafswm nifer y bobl sy’n cael byw yn eich cartref. Os ydych chi'n credu bod gormod o bobl yn byw yn eich cartref bellach (e.e. oherwydd cynnydd ym maint y teulu neu wrth i blant dyfu’n hÅ·n), cysylltwch â ni. Yna fe fyddwn ni’n gallu asesu eich anghenion ac ystyried eich trosglwyddo i gartref mwy o faint - ond bydd hyn yn dibynnu a oes gennym ni gartref addas mewn ardal yr hoffech chi fyw ynddi.
