Gofal a Thrwsio


Mae Gofal a Thrwsio yn wasanaeth sydd wedi'i gynllunio i helpu tenantiaid preifat neu berchnogion tai sy'n hÅ·n neu'n anabl i aros yn eu cartrefi wrth i'w hanghenion newid. Mae'n cynnig help a gwybodaeth gydag atgyweiriadau, gwelliannau a/neu addasiadau, help wrth ymgeisio am grantiau a dod o hyd i adeiladwyr dibynadwy. Gall gwelliannau amrywio o drwsio tap sy'n gollwng neu osod rheiliau neu gloeon newydd, i waith mawr fel adeiladu ystafell ymolchi addas neu osod to newydd.
Caiff y gwasanaeth ei gyflenwi gan Asiantaethau Gofal a Thrwsio, ac mae asiantaeth i gael ym mhob sir yng Nghymru - gweler Gofal a Thrwsio Cymru am ragor o wybodaeth. Ni sy'n rhedeg yr Asiantaeth Gofal a Thrwsio yng Ngheredigion, sydd wedi'i lleoli yn Aberystwyth. Rydyn ni’n cydweithio’n agos â phartneriaid eraill, ac yn arbennig â Chyngor Sir Ceredigion ac Ymddiriedolaeth Iechyd Hywel Dda. Mae'r math o wasanaeth rydyn ni'n ei gynnig wedi'i deilwra i gwrdd ag anghenion pobl a'u cartrefi. Gallwn ni hefyd drafod ffyrdd o wella effeithlonrwydd ynni a chynnal asesiad diogelwch. Mae'r rhain yn golygu ymweliad i asesu a chynghori ar ddiogelwch yn y cartref.
Os nad ydych yn siwr beth yn union y gallwn ni ei wneud ewch i'r Astudiaeth Achos yma sy'n dangos sut mae amgylchiadau person yn gallu newid yn ddisymwth a sut y gall Gofal a Thrwsio ddod i'r adwy.
I gael rhagor o wybodaeth neu i ofyn am gymorth, cysylltwch â ni ar 0845 260 1640 (galwad leol) neu ar gofalathrwsio@cantref.co.uk
