Astudiaeth achos
Mae Mr X yn byw ar ei ben ei hun mewn tÅ· teras sy’n cynnwys 2 ystafell wely. Penderfynodd ein ffonio ni ar ôl gweld fan ein Crefftwr Diogelwch yn y Cartref yn ei stryd. Gofynnodd a fyddai modd i ni ei helpu gyda’r canllaw ar y grisiau i’w ddrws cefn.
Trefnwyd bod ein Swyddog yn y galw gydag ef er mwyn gwneud archwiliad. Dangosodd hyn fod angen canllaw ar gyfer y grisiau yn y cefn, ail ganllaw ar gyfer y grisiau yn ei gartref, synhwyrydd mwg ar gyfer y llawr cyntaf. Roedd angen hefyd gyfeiriad at Gynllun Defnyddio Ynni’n Effeithlon yn y Cartref er mwyn manteisio ar waith ychwanegol i atal drafftiau ac inswleiddio’r llofft. Gwrthododd y cynnig i gael archwiliad Budd-daliadau, a gynigir i bob cleient. Cwblhawyd y gwaith wythnos yn ddiweddarach a dychwelwyd yr holiadur gyda nodyn i ddweud diolch.
Dri mis yn ddiweddarach, ffoniodd Mr X eto. Roedd wedi dioddef strôc fechan ac nid oedd yn gallu defnyddio’r tapiau yn y gegin.
Aeth ein Gweithiwr Achosion allan i weld Mr X, gan gyfarfod gyda’r nyrs Gymunedol hefyd, a gadarnhaodd bod Mr X yn ei chael hi’n anodd ymdopi ar ei ben ei hun yn ei gartref.
Aeth ein Gweithiwr Achosion ati i gysylltu â’r Gwasanaethau Cymdeithasol, sy’n trefnu Gofal yn y Cartref, ac Age Concern, sy’n trefnu gwasanaeth Glanhau yn y Cartref ar.
Roedd Mr X yn fodlon trafod ei amgylchiadau ariannol, a gwelwyd ei fod yn gymwys i hawlio’r Credyd Pensiwn, Budd-dal Treth Gyngor a’i fod bellach yn debygol o fod yn gymwys i hawlio Lwfans Gweini o ganlyniad i gyflwr ei iechyd.
Gwnaeth y Gweithiwr Achosion ymholiadau am y grant HEES, gan gyfeirio Mr X am asesiad Therapydd Galwedigaethol ar gyfer ymolchi, a allai olygu y bydd yn rhaid iddo aros 6 mis yn anffodus, ond o leiaf mae Mr X yn ymwybodol o’r oedi tebygol.
Mae’r Achos yn parhau.
