Cyfrifiannell Buddion
Holiadur ar-lein yw'r cyfrifwr buddiannau sy'n helpu pobl sy'n gweithio neu beidio i ddarganfod pa fuddiannau a chredydau treth y gallen nhw fod yn eu hawlio. Mae'n bosibl fod gennych chi hawl i dderbyn buddiannau os ydych chi ar incwm isel neu os oes gennych chi gostau penodol i'w talu oherwydd eich sefyllfa bersonol.
Gallwch anfon gwybodaeth am amgylchiadau unigolyn neu deulu a bydd y cyfrifwr yn eich cynghori ynglÅ·n ag unrhyw fuddiannau neu lwfansau y gallech chi fod yn gymwys i'w derbyn neu'n gymwys i'w hawlio.
Nodwch fod amcangyfrifon y cyfrifwr yn seiliedig ar yr wybodaeth rydych chi yn ei chyflenwi er mwyn rhoi syniad i chi am eich hawliau posibl. I gael asesiad cyflawn cyflwynwch gais ffurfiol cyn gynted â phosibl. Gallwn gefnogi a helpu tenantiaid a thrigolion eraill i hawlio amrywiaeth o fuddiannau, er enghraifft: Lwfans Byw i'r Anabl, Budd-daliadau Analluogrwydd, Credydau Treth, Lwfans Ceisio Gwaith, Cymhorthdal Incwm a Budd-dal Tai. Mae'r cyfrifwr ar-lein yn declyn defnyddiol sy'n galluogi pobl o bob oed i ymholi am unrhyw gymorth ariannol a allai fod ar gael iddyn nhw.
Os hoffech gael rhagor o gyngor am fuddiannau neu os oes angen help arnoch chi i gwblhau eich ffurflenni cais, cysylltwch â ni.
http://benefits-adviser.direct.gov.uk/index.html
