File Download
Rhaglen Datblygu 2011-2012Cynllun Adeiladu Tai Newydd
Adeiladu Tai Newydd yng Nglannant, Llechryd
DATBLYGU 25 UNED YNG NGLANNANT, LLECHRYD
Dyluniwyd yr ystad newydd o 25 uned yng Nglannant, Llechryd, fel un o'r cynlluniau peilot Cod 4 ar gyfer Llywodraeth Cymru.
Mae'r datblygiad yn cynnwys un byngalo wedi'i addasu'n arbennig ar gyfer unigolion anabl, wyth fflat 1 ystafell wely ar gyfer 2 unigolyn, wyth byngalo 2 ystafell wely ar gyfer 3 unigolyn, tri thÅ· 2 ystafell wely ar gyfer 4 unigolyn a phum tÅ· 3 ystafell wely ar gyfer 5 unigolyn, a byddant yn cael eu trosglwyddo i'r tenantiaid newydd ar 8/9 Mawrth. Darparwyd lle parcio gyferbyn yr eiddo neu gerllaw.
Mae dyluniad yr eiddo wedi cymryd cam penodol i ffwrdd o'r driniaeth weddluniol ystrydebol ar gyfer tai cymdeithasol, tuag at ddyluniad mwy gwledig sy'n defnyddio lliwiau pastel ar gyfer yr eiddo, gan gyd-fynd gyda lleoliad y pentref y maent yn cael eu hadeiladu ynddo.
Caiff yr unedau eu hadeiladu gan ddefnyddio paneli pren wedi'u hinswleiddio ac y maent wedi cael eu cynhyrchu mewn ffatri. Byddant yn cael eu gosod ar y safle a byddant yn cynnwys croen allanol ar ffurf blocwaith wedi'i rendro, to llechi wedi'i inswleiddio a lloriau wedi'u hinswleiddio.
Caiff yr holl eiddo eu gwresogi gan bympiau gwres ffynhonnell aer ac o ganlyniad i natur seliedig y dyluniad, byddant yn cynnwys system Adfer Gwres ac Awyru Mecanyddol. Darparir dŵr poeth gan baneli Dŵr Poeth Solar ar y to, a bydd dŵr poeth a wresogir gan system y pwmp gwres ffynhonnell aer yn gallu ychwanegu at hwn yn ôl y gofyn.
Mae'r technolegau sy'n cael eu cynnwys yn y tai newydd yn ceisio lleihau ôl troed carbon y datblygiad mewn ffordd sylweddol. Caiff athroniaeth 'werdd' y dyluniad ei datblygu ymhellach trwy ddefnyddio cynhyrchion lleol pryd bynnag y bo modd, cynnwys safle chwarae naturiol a thrwy gynnwys bocsys adar a bocsys ystlumod ar yr eiddo ac yn y coed o gwmpas y datblygiad, ynghyd ag ymagwedd sympathetig tuag at y cynefin naturiol.
Dyluniwyd cynllun cyffredinol y cynllun ar y cyd ag ecolegydd lleol er mwyn cynnwys, lle bynnag y bo modd, gwaith plannu a thirlunio er mwyn annog cynefinoedd naturiol. Mae rhai safleoedd ar y safle yn cael eu gadael mewn ffordd benodol er mwyn iddynt 'naturioli' eu hunain heb yr angen i wneud unrhyw neu fawr ddim o waith cynnal a chadw ffurfiol arnynt.
