Cynnwys pobl yn ein gweithgareddau

Cynnwys pobl yn ein gweithgareddau

Rydyn ni'n credu mewn darparu gwell ansawdd bywyd i'n tenantiaid drwy wella'r gymuned lle maen nhw'n byw. Rydyn ni am i’n tenantiaid fod yn rhan o gymuned iach, hapus a chynaliadwy. Gallwch weld sut rydyn ni'n gweithio gyda'n tenantiaid yn ein Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid - y gallwch chi ei lawrlwytho yn yr adran Adnoddau a Lawrlwytho. Rydyn ni'n ymrwymo i weithio’n agos gyda’r gymuned er mwyn adeiladu ar y berthynas gyda phreswylwyr a gwella’r cyfleusterau a’r gwasanaethau sydd ar gael. Rydyn ni wedi cynnal diwrnodau hwyl yn y gymuned, gweithgareddau chwaraeon a sioeau teithiol. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn datblygu digwyddiad neu weithgaredd cymunedol, neu os oes gennych syniad am brosiect, cysylltwch â Rhiannon Ling ar 01239 712 017 neu rhiannonl@cantref.co.uk

Ein Panel Preswylwyr

Mae ein Panel Preswylwyr yn cyfarfod bod deufis drafod gwasanaethau lletya a ffyrdd y gallem ni eu gwella.  Rydyn ni'n ymgynghori â’r Panel ar unrhyw newidiadau arfaethedig i'r gwasanaethau ac yn gwrando ar eu barn. Mae aelodau'r panel yn cynrychioli ein preswylwyr a gallan nhw leisio unrhyw bryderon, problemau neu syniadau. Caiff cyfarfodydd eu cynnal mewn gwahanol fannau ar draws yr ardaloedd lle mae ein cartrefi. Mae preswylwyr sy'n byw o fewn cyrraedd i'r lleoliad yn derbyn gwahoddiad i'r cyfarfod. Rydyn ni'n helpu i drefnu cludiant a gofal plant os oes angen. Os oes diddordeb gennych chi i ymuno a'r Panel cysylltwch â ni.

Cymdeithasau Preswylwyr

Grwpiau o breswylwyr lleol yw'r rhain sydd wedi dod at ei gilydd er lles y gymuned lle maen nhw'n byw  i drafod materion a phryderon lleol.  Mae llawer o'r Cymdeithasau Preswylwyr wedi datblygu diwrnodau hwyl cymunedol llwyddiannus ynghyd â barbiciws, diwrnodau glanhau'r ystâd, gwibdeithiau a llawer o weithgareddau hwyliog eraill.

Ein Cymdeithasau Preswylwyr yw:

  • Llys Owen, Aberteifi
  • Gerddi'r Ffynnon, Aberystwyth
  • Hengell Uchaf, Cei Newydd
  • Llain Las, Abergwaun


Rydyn ni'n annog ac yn cefnogi ein Cymdeithasau Preswylwyr ac yn cydnabod eu pwysigrwydd a'u cyfraniad.  Byddwn yn darparu cyllid, hyfforddiant a chefnogaeth i breswylwyr sydd am sefydlu Cymdeithasau Preswylwyr newydd. Os hoffech chi sefydlu Cymdeithas Breswylwyr yn eich ardal neu os hoffech wybod rhagor am y rhai sy’n bod yn barod, cysylltwch â Rhiannon Ling ar 0333 700 1024 neu rhiannonl@cantref.co.uk

Cymdeithas Tai Cantref, Llys Cantref, Church Lane, Newcastle Emlyn, SA38 9AB
ffôn: 01239 712000  |  ffacs: 01239 712001  |  e-bost: post@cantref.co.uk