Datblygu'r Gymuned


Rydyn ni'n ymrwymo i ddatblygu amrediad eang o brosiectau gyda thenantiaid, gweithgareddau cymunedol, mentrau cyflogaeth a hyfforddi, rhaglenni cynhwysiant ariannol a rhaglenni adfywio eraill mewn partneriaeth â phreswylwyr a chyrff lleol. Mae ein rhaglen o weithgareddau cynaliadwy yn helpu ein tenantiaid a'u teuluoedd i gael y gorau o'u cymunedau.
Ymysg y gweithgareddau mae:
Cynlluniau chwarae
Lle caiff plant a'u teuluoedd eu hannog i gymryd rhan mewn sesiynau chwarae gydag arweinwyr ieuenctid
Codi sbwriel
Lle mae preswylwyr yn cadw eu cymunedau'n lân
Diwrnodau hwyl cymunedol
Dod â'r gymuned ynghyd i chwarae, dysgu am fwyta'n iach ac ati
Sioeau teithio
Sioeau ar blismona lleol, diogelwch tân, canolfannau teulu, gofal a thrwsio
Cymorthfeydd
Rhoi cyngor a chefnogaeth gydag atgyweiriadau dydd i ddydd, syniadau / problemau ystad a chymuned, ymddygiad gwrthgymdeithasol, talu rhent, ceisiadau a dyraniadau tai ac ati
Ein Panel Preswylwyr
Cymdeithasau Preswylwyr - er mwyn i breswylwyr gael dweud eu dweud a gweithredu ar syniadau
Digwyddaidau a sioeau lleol
Cymryd rhan mewn digwyddiadau lleol lle gallwn ni gwrdd â thenantiaid a darpar denantiaid
Gwella cymunedau
Gwella cymunedau drwy wrando ar farn tenantiaid a gweithredu arnyn nhw
Cydweithredfeydd bwyd
Lle gall preswylwyr brynu cynnyrch lleol ffres am brisiau rhesymol
