Talu rhent
Gallwch dalu rhent drwy’r dulliau canlynol:
Cysylltwch â ni ar y ffôn a thalu â cherdyn debyd neu gredyd:
Os ydych chi'n byw i'r gogledd o Gei Newydd ffoniwch Dîm y Gogledd ar 0333 700 1023
Os ydych chi'n byw yng Nghei Newydd neu i'r de o'r dref ffoniwch Dîm y De ar 0333 700 1024
Cerdyn Talu - cysylltwch â ni os hoffech chi gael Cerdyn Talu er mwyn i chi gael talu ar-lein neu yn Swyddfa'r Post. Os ydych chi'n dymuno talu Ar-lein, cliciwch yma am ragor o wybodaeth
Archeb Sefydlog - gallwch drefnu bod eich Banc neu’ch Cymdeithas yn ein talu ni'n uniongyrchol. Os byddwch chi'n diddymu’r Archeb Sefydlog, rhowch wybod i ni ar unwaith er mwyn i ni wneud trefniadau eraill ar gyfer talu.
Galw mewn – gallwch dalu eich rhent yn ein swyddfa naill ai gyda siec neu gydag arian.
Drwy’r post - gallwch bostio siec i ni i’r swyddfa yn daladwy i Cymdeithas Tai Cantref. Gwnewch yn siŵr fod eich enw a’ch cyfeiriad ar gefn y siec. Yn anffodus ni allwn dderbyn sieciau wedi’u dyddio yn y dyfodol. Peidiwch byth anfon arian drwy’r post.
Budd-dal Tai Uniongyrchol - os ydych chi’n derbyn Budd-dal Tai, gellir trefnu bod y taliadau yn cael eu gwneud yn uniongyrchol i ni.
Trafferth talu rhent?
Mae rhai tenantiaid yn cael trafferth talu rhent. Os ydych yn colli nifer o daliadau neu'n peidio â thalu'n llwyr, gallech golli eich cartref. Ond rydyn ni am helpu ein tenantiaid i aros yn eu cartrefi ac mae ein staff yn gallu'ch helpu chi i wneud hyn - os ydych chi'n cael trafferth, dywedwch wrthym ni cyn gynted â phosibl, er mwyn i ni allu dod o hyd i'r ffordd orau o'ch helpu chi.
