Tai â Chymorth

Rydym yn darparu gwasanaethau cymorth sy'n helpu pobl i sicrhau ac i gynnal cartref. Caiff y cymorth hwn ei ddarparu mewn cynllun llety â chymorth penodol neu fel gwasanaeth i bobl yn eu cartref. Caiff rhai o'n gwasanaethau cymorth eu cynnwys mewn prosiectau yn y rhan hon o'n gwefan. Yn ogystal, rydym yn landlord ar gyfer sawl prosiect a reolir gan ddarparwyr cymorth eraill – cliciwch ar y prosiectau ar y dudalen hon. Gweler Ein Prosiectau ac adran Prosiectau Eraill am ragor o wybodaeth.

Mae'n gwasanaethau yn gallu cynnwys cyngor, arweiniad ac anogaeth er mwyn sicrhau a chadw tenantiaeth, manteisio ar fudd-daliadau, meithrin sgiliau bywyd a gwasanaethau eraill. Rydym yn cynnal cyswllt rheolaidd gyda'n cleientiaid – rydym yn cytuno ar gynlluniau cymorth gyda nhw, sy'n pennu nodau a thargedau iddynt eu cyflawni.
Am ragor o wybodaeth am ein gwasanaethau cymorth, cysylltwch â'n Rheolwr Llety â Chymorth ar 01239 712000.
Cymdeithas Tai Cantref, Llys Cantref, Church Lane, Newcastle Emlyn, SA38 9AB
ffôn: 01239 712000  |  ffacs: 01239 712001  |  e-bost: post@cantref.co.uk