Prosiect Llety â Chymorth ar gyfer pobl ifanc digartref
Mae'r prosiect hwn yn cynnig llety i 6 unigolyn ifanc ar unrhyw adeg. Mae gan bob unigolyn ystafell wely/astudio eu hunain a byddant yn rhannu cegin, cyfleusterau golchi a sychu, ystafell ymolchi a chawod, ystafell fyw ac ystafell gyfrifiadur lle y mae modd iddynt droi at y rhyngrwyd. Caiff y prosiect ei staffio trwy gydol y dydd a'r nos. Mae'r staff yn cynnig cymorth byw o ddydd i ddydd gan gynnwys: llenwi ffurflenni, cyllidebu, gwneud a chadw apwyntiadau, siopa a choginio ac ati. Maent bob amser yn fodlon gwrando ar bryderon preswylwyr a'n nod yw cynnig cymorth iddynt er mwyn eu helpu i gyflawni eu nodau. Prif nod y prosiect yw darparu'r sgiliau angenrheidiol i breswylwyr; helpu i feithrin eu hyder; a fydd yn eu galluogi i symud ymlaen i lety ac i fyw bywyd annibynnol.
Prosiect symud ymlaen ar gyfer pobl ifanc
Mae 9 fflat 1 ystafell wely annibynnol ar gael ar gyfer pobl ifanc. Mae'r prosiect hwn yn cynnig cyfle gwych i bobl ifanc i fyw yn eu fflat eu hunain, gyda'r cyfle i fanteisio ar gymorth gan staff yn ôl yr angen. Mae hyn yn meithrin eu hunan-barch a'u hyder, ac yn eu galluogi i geisio; caffael a chynnal llety mwy priodol yn y tymor hir ac i sicrhau addysg, cyflogaeth neu gyfleoedd hyfforddi eraill.
Llety â chymorth ar gyfer pobl ifanc sy'n gadael gofal
Mewn partneriaeth gydag Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Ceredigion, rydym yn cynnig cymorth sy'n gysylltiedig â thai ar gyfer 6 unigolyn ifanc sy'n gadael gofal ac sy'n byw mewn 6 fflat annibynnol. Mae'r bobl ifanc yn cael cymorth a fydd yn eu helpu yn y pen draw i geisio; sicrhau a chynnal llety mwy priodol. Yn ogystal, mae staff cymorth yn eu helpu gyda chyfleoedd gwaith a choleg a gyda sgiliau bywyd – er mwyn eu galluogi i symud ymlaen i lety mwy priodol ac i fyw bywyd annibynnol.
Prosiect cymorth ar gyfer cyn-droseddwyr
Rydym yn gweithio gyda Gwasanaeth Prawf Dyfed a budd-ddeiliaid allweddol eraill er mwyn cynnig cymorth i gyn-droseddwyr yn y gymuned. Nod y prosiect yw gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth er mwyn eu galluogi i roi'r gorau i'w hymddygiad troseddu trwy wella'u hunan-dyb a pharch. Trwy ddarparu gwasanaeth cymorth sy'n gysylltiedig â thai; bydd cymorth yn cynorthwyo tenantiaid i ddatblygu patrymau byw cyfrifol ac i roi sylw i faterion yn ymwneud gydag aildroseddu. Rhoddir blaenoriaeth i gyfeiriadau gan Wasanaethau Prawf Dyfed, er bod modd derbyn cyfeiriadau gan sefydliadau eraill hefyd, gan gynnwys Gwasanaethau Digartref Cyngor Ceredigion. Mae modd darparu cymorth mewn unrhyw ddeiliadaeth.
Gwasanaeth Cymorth Tenantiaeth
Mae'r Gwasanaeth Cymorth Tenantiaeth yn darparu cymorth cyffredinol i denantiaid mewn llety anghenion cyffredinol yn y bedair sir yr ydym yn gweithredu ynddynt. Mae'r gwasanaeth yn cynnig gwasanaeth cymorth sy'n gysylltiedig â thai i unigolion sy'n agored i niwed, y maent yn symud i fyw i'w cartrefi eu hunain neu y maent yn byw yn eu cartrefi eu hunain ar hyn o bryd. Nod y gwasanaeth yw helpu tenantiaid i gynnal eu tenantiaeth, gan atal digartrefedd, gyda'r nod o fyw bywyd annibynnol yn y pen draw, heb yr angen i fanteisio ar unrhyw gymorth.
Llety mewn argyfwng ar gyfer y digartref
Mae Staff Cymorth yn rheoli llety dros dro yr Awdurdod, sydd ar gael mewn argyfwng i deuluoedd digartref yng Ngheredigion, ac adran Ddigartrefedd Cyngor Sir Ceredigion yw'r unig rai sy'n cyfeirio pobl at y gwasanaeth hwn. Mae'r prosiect yn ceisio sicrhau llety priodol i bobl sy'n manteisio ar y cynllun, y bydd modd iddynt symud ymlaen iddo. Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar gynnig gwasanaeth cymorth sy'n gysylltiedig â thai yn hytrach na gofal uniongyrchol, er mwyn galluogi preswylwyr i feithrin sgiliau er mwyn iddynt allu cynnal tenantiaethau llwyddiannus yn y dyfodol, gan helpu i greu cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau byw, gweithio, cymdeithasol a hamdden mewn cymuned o'u dewis.