Prosiectau Eraill
Prosiectau lle y mae sefydliadau eraill yn darparu cymorth.
Hafal
Hafal yw'r brif elusen yng Nghymru sy'n gweithio ar ran pobl y mae ganddynt salwch meddwl difrifol, ac mae'n rheoli 1 cynllun ar ein rhan ar hyn o bryd. Comisiynwyd y prosiect ar y cyd gan Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Ceredigion a Bwrdd Iechyd Lleol Ceredigion. Mae'n darparu tai ar gyfer pobl y mae ganddynt broblemau iechyd meddwl parhaus ac mae'n cynnig cymorth i 7 oedolyn y mae angen iddynt gael cymorth yn y tymor hir wrth fyw eu bywydau o ddydd i ddydd, ac mae 2 aelod o staff yn bresennol 24 awr y dydd.

Cymorth i Fenywod
Mae Cymorth i Fenywod yn cynnig cymorth i fenywod sy'n dianc rhag trais domestig mewn 2 loches, gan ddarparu 9 gwely at ei gilydd. Yn ogystal, darparir cymorth fel y bo'r angen y tu allan i'r llochesi.
Hafan Cymru
Mae Hafan Cymru yn darparu cymorth i fenywod sy'n dianc rhag trais domestig hefyd, mewn eiddo y mae Cantref yn berchen arno, a chaiff menywod y maent wedi treulio rhywfaint o amser yn y lloches ac y maent yn barod i symud allan, eu cyfeirio i'r llety hwn sydd ar gael am y tymor byr. Darparir cymorth er mwyn iddynt allu chwilio am; sicrhau a chynnal lle mewn llety mwy addas.
Anawsterau Dysgu
Mae gennym 10 cartref yng Ngheredigion ar gyfer pobl y mae ganddynt anawsterau dysgu, y byddant yn cael cymorth gan staff o asiantaethau arbenigol e.e. Mencap Cymru ac Opportunity Housing Trust.