Tai i bobl hÅ·n


Tai i bobl hÅ·n
Rydyn ni'n darparu tai i lawer o bobl hÅ·n ac mae gennym ni ddau fath.
Byngalos neu fflatiau annibynnol - mae'r rhain yn gartrefi sy'n addas i bobl dros 55 oed ac maen nhw'n cynnwys larymau argyfwng. Mae'r gwasanaeth larwm ar gael 24 awr y dydd ac mae'n gysylltiedig â chanolfan alw. Does dim gwasanaeth warden yn y cartrefi hyn.
Cynlluniau sy'n cynnwys 30 o fflatiau annibynnol â gwasanaeth warden - mae gennym ni 3 chynllun o'r fath yn Abergwaun, Aberystwyth ac Aberteifi. Mae warden yn byw ar y safle a phan na fydd ar ddyletswydd mae system larwm argyfwng yno, sy'n gysylltiedig â chanolfan alw. Nod y gwasanaeth hwn yw annog byw annibynnol gyda chefnogaeth warden ond dydyn ni ddim yn darparu gofal nyrsio. Mae cyfleusterau cymunedol ar gael megis lolfa a golchfa ac ystafelloedd i westeion ac mae'r wardeniaid yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol ar gyfer y preswylwyr.
